Archaeology in Wales

BEDDRODAU SIAMBR A SIAMBRAU CLADDU.
(Yn bennaf Neolithig)

Mae gan rai o henebion Cymru yn y categori hwn enwau adnabyddus; ysgrifenwyd amdanynt ac fe'u hastudiwyd yn gyson yn ystod y 200 mlynedd diwethaf. Enghreifftiau o'r mwyaf enwog ydy, Parc Cwm (SS 537898) a Capel Garmon (SH 818543), Pentre Ifan (SN 099370), Ty Illtyd (SO 098264), Ty Isaf (SO 182291), Ffostill North (SO 179350), Pen y Wyrlod II (SO 151316), Gwernvale (SO 211192), Nicholaston (SS 508888) a Tinkinswood (ST 092733). Mae eraill yn llai adnabyddus fel yr un a ddangosir yma, h.y. Garn Goch (SO 212177). Cloddiwyd rhai fwy nag unwaith, hyd yn oed yn y gorffennol (e.e.Ffostill, SO 179349), ond dim ond y cloddfeydd diweddar (e.e. Gwernvale SO 211192) a daflodd oleuni ar yr henebion hanes. Felly, gweddol ddadleuol yw dosbarthiadau presennol nifer o'r safleoedd. Mae'n sicr, serch hynny, bod yr henebion yma yng Nghymru yn bodoli gan fwyaf yn ardaloedd yr arfordir a'r iseldir ac mai prin oedd eu bodolaeth yn y canoldir/ucheldir. Dros gyfnod o amser newidiodd pensaerniaeth siambrau claddu. Awgryma dadansoddiad ystadegol ddatblygiad graddol o siambrau claddu mawr i gistfeini o feintiau a siapiau amrywiol, i fannau claddu di-gistfaen, proses a gychwynnodd ar ymylon Cymru, sydd dwy ran o dair, yn arfordirol. Mae'n debygol bod nifer o henebion y categori hwn wedi cael eu codi ar ddechrau'r broses, ac o'r herwydd rhoddwyd dosbarthiad nodweddiadol iddynt (gweler Roese, 1985). Serch hynny, mae anghytundeb eang ymhlith archeolegwyr yn para ynglyn â dosbarthu siambrau claddu. Cafwyd cyhuddiad, hyd yn oed, bod rhai gweithwyr yn mynnu ceisio eu gosod mewn dosbarth 'teipolegol'. Ar gyfer yr arolwg hwn profwyd y gwahaniaethau sefydliedig , oedd yn gyfredol adeg yr arolwg, rhwng y gwahanol henebion o fewn y fframwaith benodol. Roedd hyn yn cynnwys y gwahaniaeth rhwng yr henebion a osodwyd ynghyd mewn grwpiau gan archeolegwyr yn y gorffennol a'r henebion hynny oedd heb fod yn perthyn i unrhyw grwp arbennig. Cadarnhaodd yr arolwg, yn anad dim arall, bod yr henebion nad oedd yn perthyn i grwp arbennig i'w canfod, nid yn unig mewn grwpiau llawer mwy mewn ucheldiroedd o dros 500metr, ond eu bod wedi eu codi ar y safleoedd lle nad oedd yr henebion mwyaf adnabyddus yn cael eu codi mor aml. Mae'n bur debyg bod rheswm dros y gwahaniaeth hwn, rheswm na chafodd ei ddarganfod eto. (Cyfieithiad Nia Richards)


Tomen Ffostill-North, SO 17913495

Beddrod siambr Gwernvale, SO 21101920.