Archaeology in Wales

CARNEDDAU CRYNION A BEDDRODAU CRYNION .
(Yn bennaf Oes yr Efydd)


Mae rhai o'r henebion hyn hefyd yn adnabyddus, yn enwedig wrth enwau nodweddiadol megis Carnedd Wen (SH 551609), Troed yRhiw (ST 015929), Bryn Beddau (SH 510597), Crug Las (SN 388516), Pant Glas (SO 185561), Glyncymer (SS 862954), Riley’s Tumulus (SS 851772). Yn debyg i'r categori blaenorol, rhai carneddau crwn &: cloddiwyd beddrodau fwy nag unwaith –: hyd y mae modd dweud , o ystyried nad oedd yn arferol i gofnodi gweithgareddau o'r fath. Mewn gwirionedd, mae'n debygol iawn i nifer o'r safleoedd gael eu cloddio sawl gwaith heb yn wybod i neb. Carneddau crwn& gorgyffyrddodd beddrodau mewn amser â phensaerniaeth cloddio Neolithig Diweddar. Cynhwyswyd claddedigaethau'n unig yn y diwethaf (estynedig yn bennaf) nes iddo gael ei ddisodli'n llwyr. Yng nghamau cynnar y broses hon, carneddau crwn& cynhwysai beddrodau gladdedigaethau hefyd (wedi'u crymu yn bennaf).Yn ddiweddarach yn yr Oes Efydd, gweithredwyd amlosgiadau bron yn ddieithriad. Pentyrrau cerrig, er enghraifft carneddu, oedd y mwyafrif helaeth o domenni claddu Cymru yn yr Oes Efydd. Tomenni pridd, ar y llaw arall, oedd y beddrodau crwn prin eu cofnod. Dymchwelwyd y mwyafrif drwy weithgareddau amaethyddol diweddarach (fel y gwnaed â'r carneddi) cyn i gofnodion gael eu cadw. Carneddu crwn& cafwyd beddrodau mewn niferoedd mawrion dros holl fewndir Cymru, mewn camau amlwg o helaethiad cefnwlad. ( gweler Roese, 1981), Cafwyd beddrodau Biceri, nodweddiadol o'r rhyngwynebu rhwng yr oes Neolithig ac Efydd, eisoes yn bellach yn y mewndir na'u rhagflaenwyr , tra claddedigaethau amlosgi oedd y prif ddull o gladdu ym mherfeddion Cymru. Bu eu safle neu leoliad topograffig yn bwnc llosg yn y gorffennol. Serch hynny, derbynnir erbyn hyn, i'r henebion hyn gael eu codi mewn lleoliadau gwahanol, o ben y bryniau i waelod dyffrynnoedd, ac na chawsant eu cyfyngu i fath benodol o safle topograffig (Cyfieithiad Nia Richards)


Carnedd Llangadog, SN 69..17..

Dyma enghraifft o safle fynyddol.

Carnedd Nant Maden, SN 960144.

Dyma enghraifft o safle ddyffrynol.