Gogledd


Casgliad Cerrig Duon, SN 8512 2062
(Cylch / Rhesaid / Rhodfa / Maen hir)


Hengorau, Cylch a Gosodiadau Carreg.
(Yn bennaf Oes yr Efydd)

Oherwydd eu niferoedd a'u maint cymharol fach, astudiwyd henebion Cymru yn y categori hwn, ar y cyfan, fel rhan o ymchwiliadau i Brydain Fawr gyfan (e.e.A.Burl, The Stone Circles of the British Isles , 1976, tud. 254-272). Serch hynny, ceir ambell i astudiaeth sy'n delio'n uniongyrchol â Chymru e.e. W.F Grimes (1963) 'Stone Circles and Related Monuments in Wales' yn Ll.Foster & L.Alcock (golyg.) Culture and Environment, neu F.Lynch (1972) 'Ring Cairns and Related Monuments in Wales' yn Scottish Archaeological Forum IV; gweler hefyd Roese 1980. Eto, mae cylchoedd yn para'n ddirgelwch. Mae ansicrwydd a ydynt yn feddrodol neu'n ddefodol neu'r ddau. Serch hynny, gellir bod yn sicr o un nodwedd, sef bod cylchoedd hengor, gan gynnwys cylchoedd cloddiog yn bod yn ardaloedd yr arfordir a'r iseldir yn ogystal â'r berfeddwlad agos. Ceir cylchoedd cerrig, ar y llaw arall, ar draws mewndir mynyddig Cymru gyfan, yn enwedig ym mherfeddion y wlad. Nodwedd arall na roddwyd iddi lawer o sylw yw'r arsylwad maes sy'n nodi pan fo gan gylchoedd cerrig allgreigiau (carreg unigol neu res o gerrig), maent bron yn ddi-eithriad wedi'u lleoli i fyny o'r cylchoedd eu hun.. Mae'r lefel y gosodir yr allgraig felly ychydig yn uwch na'r cylch. Gall hwn fod yn ddamweiniol, ond hyd oni phrofir hynny, gallai fod yn arwyddocaol. Ar ben hynny, mae echelin hir y cerrig allgraig unigol, pan yn unionsyth, yn ymddangos byth a hefyd wedi'u cyfeirio tuag at y cylch. Yn achos Cerrig Duon, mae rhodfa gysylltiedig yn arwain i lawr oddi wrth y cylch tuag at nant fach ac at ble y mae llwybr drwy'r dyffryn wedi bodoli erioed mae'n debyg. Drwy ddilyn llinell ganolog ddychmygol drwy'r rodfa a thros y nant, saif, ar y llethr gyferbyn, tua 1,000 metr o ganol y cylch, ar ongl o 15 gradd i'r gogledd-ddwyrain (SN 82452145) menhir mawr unigol ar fryncyn isel. Mae ei echelin hir yn berffaith gyfunion â'r rhodfa. Heddiw, mae'r ddau heneb ond prin allan o olwg ei gilydd, oherwydd ymddengys bod diwedd llithriad tafod symudol o fawn wedi cropian i'r llinell olwg. Mae'n bosib, nad oedd y rhwystr hwn yno 3,500 o flynyddoedd yn ôl a bod y garreg yn weledol o Gerrig Duon ac i'r gwrthwyneb. Ni wyddys o gwbwl os oes perthynas rhwng y cylch cerrig â'r garreg unigol hon neu beidio. Ond dyma ffeithiau ffisegol y maes. (Cyfieithiad Nia Richards)