Archaeology in Wales

(gweler C.T.Barker, 1992, d.57/No.78)


MEINI HIRION AR EI HUN, MEWN PARAU A RHESEIDIAU .

(Tybir eu bod yn Neolithig oherwydd eu maint, yn gysylltiedig ar brydiau â deunyddiau'r oes Efydd, ond ar y cyfan, serch hynny, ansicr yw eu hoed.)

Dyma grwp o henebion sydd, hyd heddiw, wedi llwyddo i osgoi pob ymgais i ddarganfod eu pwrpas a'r union gyfnod y'u hadeiladwyd. Maent, o ganlyniad i hyn yn bwnc o ddiddordeb parhaol i ymwchwilwyr. Gweddol brin yw astudiaethau yn y categori hwn sy'n cynnwys ardaloedd mawr; un enghraifft yw honno o eiddo G.Williams (1998) 'The Standing Stones of Wales and South East England' yn BAR British Series197, a'r llall gweler Roese, 1980. Serch hynny, mae nifer o gyhoeddiadau yn cynnig damcaniaethau ynglyn ag ystyr y meini hirion. Mae sawl un yn seilio'u damcaniaethau ar feini hir Cymru. Mae'r arolwg, a drafodir ar y wefan hon, yn sicr yn cadarnhau bod meini hir a rheiseidiau, yn anhebyg i rai o'r henebion eraill y soniwyd amdanynt, yn bodoli ar draws Cymru gyfan. Mae eu dyraniad yn dangos patrwm dwysach yn ardaloedd arfordirol Gorllewin Cymru, ond nid yw'n ddigon arwyddocaol i dynnu sylw oddi wrth y dyraniad mewndirol o'r enghreifftiau o'r math hwn o heneb a oroesodd.. Bydd angen mwy o ymchwil cyn y gellir taflu goleuni terfynol arnynt, yn enwedig gan fod rhai cofnodion hanesyddol o safleoedd coll yn awgrymu mai anghyflawn yw'r enghreifftiau sy'n goroesi. Mae hyd yn oed y diffiniad o'r hyn yw cyfansoddiad maen hir dal yn ansicr, ac fe awgrymwyd y gallent fod wedi cael eu codi yn y Canol Oesoedd yn hytrach nag yng nghyfnod cyn-hanes. (Cyfieithiad Nia Richards)



Rhesaid Clo Cadno SO 119167


Enghraifftiau rhagor